Crwydro Gerddi
Crwydrwch o gwmpas rhai o erddi deniadol Cricieth. 11:00-16:00
Mehefin
Sul
14
11:00
Gerddi yn Cricieth
Rhagor am y digwyddiad hwn
Bydd nifer o erddi deniadol Cricieth ar agor er mwyn i chi gael ymweld â nhw. Mae'r tocyn deuddydd a'r map o leoliadau yn caniatáu ichi ddewis pryd a ble i grwydro.
Lluniaeth ar gael yn Eglwys Santes Catrin a Phafiliwn y Rhandiroedd
Cynhelir Gŵyl Flodau Cricieth hefyd yn Eglwys Santes Catrin. (Mynediad am ddim i'r Eglwys).
Gwybodaeth am docynnau
Gellir prynu tocynnau ar gyfer digwyddiadau ar-lein drwy Ticketsource neu â thâl arian parod o 3 siop yng Nghricieth, Pwllheli a Phorthmadog. Dim ond mewn un siop, sef Newsday yng Nghricieth, y gellir prynu tocynnau arian parod ar gyfer Cinio’r Ŵyl a Llwybr y Gerddi.
Lleoliadau’r siopau -
Archebu’n bersonol (arian parod yn unig) yn Newsday, Stryd Fawr, Cricieth; Siop Eifionydd, Porthmadog; a Llên Llŷn, Pwllheli
Crwydro Gerddi
Prynwch Docynnau








