Gordon Stewart
Rhagor am y digwyddiad hwn
Gweithiodd Gordon Stewart ym myd cerddoriaeth cadeirlan eglwysig; yn gyntaf ym Manceinion, yna yn Blackburn. Am 30 mlynedd bu’n organydd yn Neuadd y Dref Huddersfield gan chwarae cyngherddau rheolaidd yno ar organ y Tad Willis o 1860. Mae bellach yn Organydd Emeritws.
Mae wedi cael ei recodrio’n chwarae ar organau yn y DU ac yn Ne Affrica ac wedi chwarae concertos gyda Cherddorfa Ffilharmonig y BBC, Cerddorfa Siambr y Gogledd, Cerddorfa Opera’r Gogledd a Cherddorfa Victoria. Darlledodd yn rheolaidd am 20 mlynedd fel organydd ac arweinydd ar radio a theledu’r BBC, yn bennaf fel cyfarwyddwr cerdd Daily Service, Sunday Half Hour ac Songs of PraiseMae hefyd wedi dysgu am sawl blwyddyn yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd a Phrifysgol Caergrawnt.
Mae repertoire Gordon yn gynhwysfawr. Mae wedi chwarae cyngherddau ledled y DU, gan gynnwys Cyngherddau Enwogion yng Nghadeirlan Sant Paul, Abaty Westminster, Cadeirlan Westminster a led led Ewrop, yr Unol Daleithiau, De Affrica, Awstralia a Seland Newydd.
Mae’n gyn-lywydd Cymdeithas Gorfforedig yr Organyddion. Mae wedi derbyn cymrodoriaethau er anrhydedd gan Goleg Brenhinol yr Organyddion, Ysgol Frenhinol Cerddoriaeth Eglwysig ac Urdd y Cerddorion Eglwysig, a doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Huddersfield. Yn 2023 dyfarnwyd Medal Ymerodraeth Prydain iddo yn Anrhydeddau Pen-blwydd cyntaf y Brenin.
(Bydd te a chacennau ar gael ar ddiwedd y datganiad).
Cyfarwyddiadau a Pharcio
Cyfeiriad: Capel y Traeth Penpaled Road, Cricieth, LL52 0HG
- From Y Maes (the central square in Cricieth), head towards the railway level crossing.
- Go over the level crossing and bear left, down Penpaled Road. Capel y Traeth is on your left side after 40 metres.
- Os ydych yn cyrraedd mewn car, mae parcio ar gael fel arfer gerllaw ar y Stryd Fawr along the High Street or by the sea front, or in the “Pay and Display” car park near the level crossing.
- Walking from the seafront? Head up Penpaled Road toward the High Street, and Capel y Traeth will be on your right in 50 metres.
Gwasanaethau Hygyrchedd
Mynedfeydd Cyhoeddus
Main doors plus access for wheelchairs.
Toilets
Male, Female and Disabled toilets.
Parcio
For wheelchair users near Hall and nearby large public car park (250 metres) and street parking.
Diogelwch
System larwm tân ac allanfeydd tân. Mae polisi dim smygu yn weithredol ledled yr adeilad.
Wi-Fi
Dim Wi-Fi cyhoeddus ar gael.
Gwybodaeth am docynnau
Gellir prynu tocynnau ar gyfer digwyddiadau ar-lein drwy Ticketsource neu â thâl arian parod o 3 siop yng Nghricieth, Pwllheli a Phorthmadog. Dim ond mewn un siop, sef Newsday yng Nghricieth, y gellir prynu tocynnau arian parod ar gyfer Cinio’r Ŵyl a Llwybr y Gerddi.
Lleoliadau’r siopau -
Archebu’n bersonol (arian parod yn unig) yn Newsday, Stryd Fawr, Cricieth; Siop Eifionydd, Porthmadog; a Llên Llŷn, Pwllheli








